SCROLL DOWN AND READ MORE>> FOR ENGLISH
BLOG PENNOD 8
1 diwrnod ynghynt…
Co’ ni off… Amser i Pat i fynd â’r sbwriel allaNAAAAA! Pam mai Pat sy’n ffeindio gwenwyngac Beti?? Paid â chael dy demptio gan y ceirios ‘na Pat… Wy wastod wedi gweld rhywbeth digon creepy am geirios glacé. Od.
Richard druan yn sâl swp. Iaith ryngwladol y teledu am ‘Mae’r cymeriad hwn/hon yn feichiog’. Falle fod mwy o gyfrinache ar Crud-yr-Awel nag oedden ni’n meddwl? Naill ai hynna neu fod bwyd Sali mor sâl â’i sgyrsie rownd y ford…
“PAT! PAAAAT!!”
Ah wrth gwrs, “PAAAT!” yw’r “LINDAAA!” newydd. Ma’ Pat ishe £20,000 i nôl charger Tony. I fod yn deg, dy’n nhw ddim lot chepach o’r Apple store. Hang-a-dang… Faint oedd y person anhysbys yn gofyn i Gruff am?
Ma’ Ben wedi dod ato’i hun go iawn drwy’r gyfres ‘ma, a wy’n rili falch. Mae e’n ddi-origami erbyn hyn wedi’r cyfarfodydd Origami Anonymous a mae ‘na obaith bach iddo fe ag Alex.
Ma’ Jac y Jwc wedi gweld dyddie gwell, do?
"O Sali Mali, tydi petha' heb fod yn dda iawn yn ddiweddar HO HO!" |
BETH?! Conspiracy rhwng Bobo a Richard, a ma’ Richard wedi holi os yw Bobo “wedi cael gwared ar y corff”… Sa’i wir yn credu y base Bobo yn neud hitman da iawn. Bach yn dwp.
Fel pennod o Doctor Who, mae Beti yn raddol yn troi i fewn i un o’r dolie hunllefus sy’n llenwi’r lolfa. Ond dyma Ben o’r diwedd yn dod ar draws hen laptop Gruff wedi’i losgi! Dyma ni’n agosau at y gwirionedd.
“PAT! PAT!!”
Pat…?! Ow. Em. Jî. Nid Patricia mo hwn…
Ow. Em. Jî 2. Ma’ Jan yn fyw. Hir oes Jan…
A ma’ ‘na bartneriaeth newydd rhyngddi hi a Bobo. Arian a dirgelwch. Ond do’dd Richard ddim yn disgwyl ‘i bod hi nôl, ma’n debyg…
Ma’ Caroline yn poeni am Bobo. Paid â phoeni, bach, os nad oes rhyuwn arall wedi trefnu’r hit ar Bobo, na’i neud e’n hunan. O, dyma fe, a Caroline yn dangos i ni gyd fod ganddi gloch ym MHOB dant. Ond be ddiawl sy’n bod ar ei brawd?
*ring ring*
Ma’ Ben wedi llwyddo (sut ddiawl??) i gael bach o wybodaeth oddi ar y laptop wedi’i ffrio, ac yn gwybod pwy oedd yn bygwth Gruff. NA!! Drama bois… JYST pan oedden ni’n meddwl fod gobaith iddyn nhw. Gytid.
Ma Richard yn edrych fel tase fe ‘di gweld ysbryd, ac yn mynd i lefen yn y bathrwm. Neu falle fod e’n siomedig fod e heb jyst mynd â’r teulu i’r archau aur am swper. Lot chepach, ond ych-a-fi.
Y DIWRNOD OLAF…
Llythyr i Sali’n cyrraedd… Ac ynddi USB… C’mon Sali, paid a’n cadw’n aros!
Pat a cêc, Pat a cêc, rho fe i Tone,
Pat a cêc, Pat a cêc, peidiwch â sôn,
Pat a cêc, Pat a cêc, drychwch y mess,
Pat a cêc, Pat a cêcOMAIGODPAIDABLYDIBYTAHWNAAAA!!
Dyna be’ oedd ar yr USB… Fideo o sgwrs Richard a Bobo. Ma Sali’n gwbod y gwir. Falle neith hynna’i neud hi ychydig yn chwer… O na. A CERIAN sgwennodd y llythyr am affêr Richard a Rachel… Ac o’dd ei thad YN cael affêr… A ma hyn i gyd yn ormod i fi, fi angen lie-down!
Pwy sy’n dweud y gwir??
Un peth ‘wy YN ei wbod: dyw Richard ddim yn dda iawn yn paco cês.
A dyma ni nawr yn darganfod y gwir am Rachel, am Mark a’i affêr, am y gwir reswm tu ôl ei hunan-laddiad… Mae holl waith, holl gynllun Jan wedi bod yn dipyn o wastraff. Blydi hel, rhaid bo hi’n gytid am yr holl rhent ma’i ‘di talu am y tŷ ‘na. Dyw hi heb hyd yn oed dadbacio dim byd ‘na.
Ma’ Tony mewn tipyn o stâd. Ddim AR Tipyn o Stâd. Pwps ym mhobman. A nawr wy’n sylwi ar ‘i hot pants bach e. Neis, Tony, neis.
‘Dwi ddim yn gweld dyfodol hapus iawn i Huw a Caroline ar ôl iddi ddarganfod ei ‘frad’. Ond o leia ma’ ganddo ddyfodol disglair yn modelu i gatalog Kays.
"Hi. Fi 'di Huw... A dyma 'casual'..." |
Ma’ popeth ar fîn cico off! Ceir a faniau du ym mhobman!
Jan a Bobo a Cerys a Mark a Caroline yn y gegin gyda gwaed ar y gyllell a GWAED AR Y GYLLELL fflipin eck!
O’r diwedd ma’ Tony’n teimlo’n ddigon hael (wel) i gynnig yr arian i Pat. Ond sori, Tony, ma’i lawer rhy hwyr.
Tipyn o sefyllfa draw yng ngegin Jan, ond gyda thipyn o “calm down, calm down” tactics ma’ Cerys yn saff. Ond neith Jan-neu-Becky byth o’i gweld hi eto. Arwyddocaol.
Jyst i ddweud, wy’ newydd wylio tan y diwedd gyda ‘ngwyneb yn fy nwylo. Blydi hel. A chryfach.
A nawr y’n ni wedi gweld pwy gripiodd yn smic i fewn i’r gegin a phigo’r arf o’r llawr a lladd Jan. A wy’ wedi ‘nhemtio i beidio’u henwi nhw fan hyn, JYST rhag ofn bo chi heb wylio. Achos os nad y’ch chi di gwylio fe BLYDI GWYLIWCH E MAE E’N IMMENSE!
A dyma ni. Y diwedd. Ond yng ngwir draddodiad y gyfres, mae ‘na gwestiynnau ar ôl. A gewn ni fyth atebion? Pwy a wyr.
Y deigryn olaf un |
Diolch am ddarllen dros yr wythnose dwetha, diolch am ail-drydar ac ymateb, a gobeithio y deith mwy o ddrama Cymreig YMEISING fel hyn yn fuan iawn.
#hint
#comisiwnplisdiolch
#jôc
#hannerjôc
#nosda
#35diwrnod