SCROLL DOWN AND READ MORE>> FOR ENGLISH
BLOG PENNOD 6
7 diwrnod yng nghynt…
Ma Tony off i ddechreuad da, ac yn styrran ar ei orau drwy ddatgelu’r gwirionedd am gostau rhent ei dŷ wrth Huw. Amser am drafodaeth ‘ysgafn’ gyda Caroline, ie ie?
Yn ôl y sôn, ma’ ‘na reol bisâr ymysg sgriptwyr sy’n dweud: ym mhob cyfres ddrama Gymreig, rhaid bod o leiaf un person yn yngan y geiriau “DY FAI DI YW HYN!”
A dyma ni.
Yn ôl ei wraig, ‘unig ddewis’ Huw yw i werthu’r cyffuriau ‘naeth e guddio mewn boncyff ym mhennod un. ‘Sen i’n bersonol yn trïo cael sgwrs fach gyda HSBC* cyn trïo gwerthu llond parsel o ddrygs, ond dyna ni, ni gyd yn wahanol ondy’n ni?
*mae banciau a sefydliadau ariannol eraill ar gael. Oll cyn waethed â’i gilydd.
Ma’ Pat druan fel Sinderela o gwmpas y tŷ ‘na… A siom iddi heno wrth glywed fod Lynda wedi bod yn dweud celwydd wrthi. Na! Wy’n joio’r ysgafnder yn y cyfeillgarwch ‘ma - sa’i ishe gweld nhw’n cwympo mas nawr.
JAN JAN JAN! Be’ ti’n blincin’ neud?
Dyw Jan ddim yn hapus gyda Richard, yn amlwg, ac anelu’r dryll ato… Wel, trwy drws y bathrwm wrth gwrs. Tipyn o rwystr fynna.
Joio’r ffaith ‘mod i ddim cweit yn gwybod 100% ei bod hi ddim am dynnu’r clicied.
6 diwrnod yng nghynt…
Aeth ddoe yn sydyn, do? Rhaid mai dydd Gwener oedd hi.
Ma’ Huw ‘di ffindo hanner y rhent, gyda’r gweddill yn dod ar ddiwedd y mis. Gobitho na gath e pay-day loan gydag interest o 3758%. Aw.
CAR CHASE CAR CHASE CAR CHASE!
![]() |
Yn ei gwisg goch NEIDIODD Jan o'r car fel fflach... |
Dwi newydd sylwi, gyda holl dristwch a chymysgwch emosiynol Beti wedi marwolaeth Gruff, ma Ben i weld yn llawer fwy stable. Dyw e ddim wedi cyffwrdd â’r origami ers wythnose… Diddorol.
Beti y’n ni’n galw’n mam ni hefyd. Petai hi hanner mor siaradus a di-stop â hon, se’n i wedi’i gyrru hi draw i Shady Pines ymhell cyn hyn…
Ma Jan mewn picil nawr, ma Mark (neu ‘Boi y Gwn’) wedi’i dilyn ac yn achosi bach o sîn ar Crud-yr-Awel. AHAAAA… Nawr te, ma’n amheuon ni’n dechre cael eu datrys a’u hateb. O’n i wedi amau fod perthynas rhwng Jan a Mark o ryw fath.
Ma Jan yn teimlo’n euog am berswadio ‘Rachel’ i fynd i dribiwnlys… A Rachel oedd CHWAER JAN. Reeeeeeit…!
Ma’ Caroline yn addo ar ‘fywyd ei phlant’ na ddaw ei brawd Bobo yn agos at eu cartref. Hmm…
![]() |
Diwrnod arferol arall gyda Caroline a Huw |
Os mai ‘Bobo’ fase enw ‘mrawd i, ‘sen i ddim yn moun iddo fe ddod yn agos chwaith.
A nawr ma Huw wedi spotto Mark yn gadael tŷ Jan ac yn cael panic. Ma’r cylch yn cau. Bring it on.
Wel, ma’ heddi’n ddiwrnod o sîns ar y stryd. Ond diolch i sîn fach Beti, ma’r cwestiwn wedi codi rhwng Jan a Richard am ei affêr gyda Rachel, a mae e’n ei wadu’n llwyr… A wy’n ei gredu e! Beti oedd yn rhoi dou a dou at ei gily’ medde Richard, felly nawr ma’r dirgelwch yn dwfnhau - oes e lawer mwy i’r stori nag oedden ni’n ei feddwl??
Ma’ Ben yn dwed fod Jan yn dweud fod Richard yn dweud fod yr arian yn y sied… Waw.
AC MAI RICHARD OEDD YN BLACMEILIO GRUFF! Ife? A lle mae gweddill yr arian? A nawr ma Beti wedi darganfod y gwenwyn…
Dyma ‘Bobo’… Brawd Caroline. Mae e’n rhydd o’r carchar (jiw jiw ffast turnaround!) ac o bosib ma’ ‘na ddiolch mawr i Huw am hynny. Wpsi… A dyna syrpreis, ma’ Caroline wedi torri’r addewid ‘naeth hi ar fywyd ei phlant. ‘Udishido…
Ma Beti’n brysur gyda’r gacen tail a brethyn i Jan…
Beth yw ‘busnes’ Tony? Dwi’n tybio ‘sa Tony’n neud cystadlwr amêsing ar The Apprentice eleni…
Ma’ pawb yn dweud celwydd wrth ‘i gilydd ar y clos a Jan yng nghanol y wê erbyn hyn. Ar wahan i’r car sy’ newydd rifyrsio dros Tony…
Y CAR SYDD NEWYDD RIFYRSO DROS TONY?! WAH!
Na, nid Tony ‘druan’… Jyst Tony. Wps.
(kudos, gyda llaw i Rhys ap William sy’n fachan neis o Gwm Tawe sy’n llwyddo i whare bachan mor ychapych â Tony
Ma’ hyn nawr yn gêm o statws a chelwydd… A’r bennod nesa’ yn edrych yn schamazing!
Y cwestiynnau sydd i’w hateb felly:
- Lle ma gweddill arian Gruff?
- Pam ddiawl fod Gruff yn cadw jar o wenwyn yn ei sied??
- Richard neu Jan sy’n dweud y gwir am yr affêr?
- A fyddwn ni’n gweld nyrs Pat yn gwthio Tony o gwmpas mewn cadair olwyn wythnos nesa…? Chi jyst yn gwbod fydd ganddi'r rigowt perffaith...
![]() |
"Tony, cariad... Ti'n barod am dy bed bath...?" |