SCROLL DOWN & 'READ MORE>>' FOR ENGLISH
BLOG PENNOD 2
A dyma ni eto… 29 diwrnod yng nghynt.
Ma’ Tony’n gwitho mas yn y garej… ac AHA! Dyma hi, ‘y corff’ yn fyw! Ond dy’n ni dal ddim cliriach ynglŷn â phwy yw’r person yma. Ddim eto…
Ma Gruff yn edrych ar bŵbîs yn y sied… Ond bŵbîs pwy tybed? Dwi’n teimlo na fydd y rhaglen gwis yna’n cael comisiwn yn fuan iawn. Dyw Cymru ddim yn barod.
Oooo, ma Jac wedi symud ymlaen. ‘Sgwn i be fydd teimladau Richard am hyn, yn enwedig gan y basai hyn yn golygu gweld llai o Bethan yn y tŷ.
Nôl â ni at Gruff yn ei sied a ma fe’n… O mae e’n codi ac yn… Na… Na! NAAAAAA!! #worldsbestcutaway #diolchirdrefn
Wrth y wisg, ma’ Jan naill ai’n flight attendant neu’n gweithio yn y Kwik-Save lleol. Diddorol.
O ma Ben yn joio origami. O’n i’n arfer neud lot o origami fel bachgen. Ma Ben yn dda gyda’r garanod. O’n i’n arbenigwr ar ‘y mhysgod. Sgwn i pwy sa’n ennill mewn brwydr.
Dyma’r tro cynta i’r trigolion gael cipolwg ar eu cymydog newydd, ond rhyfedd bo neb wedi mynd â chac* rownd eto.
*Cac = teisen NID caca pwps. Anaddas basai hynny fel anrheg.
Jiw ma Gruff yn joio’r sied ‘na… Ond o diar, dim cymaint nawr ‘i fod e wedi’i ddala allan! O diar, mae e mewn strach.
Licen i weld ffeit rhwng Pat a Tony. Credu ‘sa hi’n ‘i rwygo fe’n ddarne.
WRTH GWRS mai Beti yw’r cynta i fynd ag anrheg croeso draw at Jan. Cacen? Wel, fi sy’n dyfalu mai cacen yw hi ond falle wir mai HANGONMA’IDIROIDEYNYBIN! Cacen Beti’n syth i’r bin? Dim ond un dehongliad sydd: bitsh llwyr. Neu alergedd i wyau. Yr ail basai hi yn fy achos i.
Nawr fi’n caru Pat mwy nag erioed… Mae hi’n neud karaoke!! Yn bersonol, sa’ well gen i wisgo ffrog a heels na neud karaoke.
Ma Jan wedi dod i ymuno yn y parti… Tybed os fydd ‘na gystadleuaeth codi aeliau. Sali enillith. Hands down. Meistres Yr Ael Heb Ei Hail.
Gruff wedi ymuno, ond yn edrych fel petai e wedi gweld ysbryd… Dyw hi ddim ‘di marw eto boi.
O Tony, ca’ dy falog mêt… Y pyrf!
O’n i’n poeni bo Jan yn mynd i gerdded i fewn i’r bathrŵm i ddarganfod y gerddorfa’n tiwnio. Braidd yn embarrassing. Ond ma hi… Ymm… Be ma hi’n NEUD? Ishe sane smeli Richard?? Sai’n gweld bai a bod yn onest.
Y bore wedyn’ny a ma pawb yn diodde ychydig bach. Gruff o embaras a pharanoia; Pat o fysedd gludog…
Linda a Pat yn swopio anrhegion Nadolig. Neis. Pat wedi cael rhybeth bach bach i Linda. Gydag arian Linda. Wps. Linda wedi prynu Fabergé egg i Pat. Joio. Tony ddim wir am ymuno yn yr hwyl. O’n i ddim yn tybio mai Tony fase ffan mwya dathliadau’r Nadolig.
O… O! Ffeit ar y stryd! Ahhh nawr ma fe ychydig mwy fel Ramsey Street.
Iasu mowr ma Ben wedi mynd ‘chydig bach dros-ben-llestri da’r origami!! Ma’i gasgliad o FHMs wedi’u rhwygo’n ddarne a’r lle’n edrych mwy fel aviary Sŵ Caer… Yn y ffordd mwya creepy erioed.
“O’s rhywun ti’n lico heblaw am dy hunan, Sali?” #quoteoftheweek
Www nawr te pam bo Jan yn llefen? Rhaid bo hi wir ddim yn lico’r syniad o ISAs.
Beth am edrych nôl ar yr hyn y’n ni wedi’i ddysgu’r wythnos hon:
- Nid ‘cariad’ sy’ rhwng Caroline a Tony, jyst ishe ffafr yn lle’i dâl rhent mae e… Ond beth yw oblygiade pellach hyn?
- Erbyn hyn ma gyda ni syniad gwell o beth yw cyfrinach Gruff, a’i benbleth, ond nid pwy sy’n ei bygythbrisio? Pat? Neu ‘di hynna braidd yn rhy amlwg?
- Sut ma salwch meddyliol Ben yn effeithio ar ei ymddygiad?
- Ma Jan yn hynod o gyfrinachol - ai shei yw hi neu oes ganddi rhywbeth mawr i’w guddio?
- Ai “Sali - yn y lolfa - gyda’r aeliau” yw’r ateb i’r dirgelwch?
#spoiler
DEWCH DRAW I DRAFOD AR TWITTER #35diwrnod A DILYNWCH @35diwrnod
DEWCH DRAW I DRAFOD AR TWITTER #35diwrnod A DILYNWCH @35diwrnod