Sunday 11 May 2014

PENNOD 8 / EPISODE 8 - FINALE!

SCROLL DOWN AND READ MORE>> FOR ENGLISH

BLOG PENNOD 8

1 diwrnod ynghynt…

Co’ ni off… Amser i Pat i fynd â’r sbwriel allaNAAAAA! Pam mai Pat sy’n ffeindio gwenwyngac Beti?? Paid â chael dy demptio gan y ceirios ‘na Pat… Wy wastod wedi gweld rhywbeth digon creepy am geirios glacé. Od.

Richard druan yn sâl swp. Iaith ryngwladol y teledu am ‘Mae’r cymeriad hwn/hon yn feichiog’. Falle fod mwy o gyfrinache ar Crud-yr-Awel nag oedden ni’n meddwl? Naill ai hynna neu fod bwyd Sali mor sâl â’i sgyrsie rownd y ford…

“PAT! PAAAAT!!”
Ah wrth gwrs, “PAAAT!” yw’r “LINDAAA!” newydd. Ma’ Pat ishe £20,000 i nôl charger Tony. I fod yn deg, dy’n nhw ddim lot chepach o’r Apple store. Hang-a-dang… Faint oedd y person anhysbys yn gofyn i Gruff am?

Ma’ Ben wedi dod ato’i hun go iawn drwy’r gyfres ‘ma, a wy’n rili falch. Mae e’n ddi-origami erbyn hyn wedi’r cyfarfodydd Origami Anonymous a mae ‘na obaith bach iddo fe ag Alex.

Ma’ Jac y Jwc wedi gweld dyddie gwell, do?

"O Sali Mali, tydi petha' heb fod yn dda iawn yn ddiweddar HO HO!"


BETH?! Conspiracy rhwng Bobo a Richard, a ma’ Richard wedi holi os yw Bobo “wedi cael gwared ar y corff”… Sa’i wir yn credu y base Bobo yn neud hitman da iawn. Bach yn dwp.

Fel pennod o Doctor Who, mae Beti yn raddol yn troi i fewn i un o’r dolie hunllefus sy’n llenwi’r lolfa. Ond dyma Ben o’r diwedd yn dod ar draws hen laptop Gruff wedi’i losgi! Dyma ni’n agosau at y gwirionedd.

“PAT! PAT!!”
Pat…?! Ow. Em. Jî. Nid Patricia mo hwn…

Ow. Em. Jî 2. Ma’ Jan yn fyw. Hir oes Jan…
A ma’ ‘na bartneriaeth newydd rhyngddi hi a Bobo. Arian a dirgelwch. Ond do’dd Richard ddim yn disgwyl ‘i bod hi nôl, ma’n debyg… 

Ma’ Caroline yn poeni am Bobo. Paid â phoeni, bach, os nad oes rhyuwn arall wedi trefnu’r hit ar Bobo, na’i neud e’n hunan. O, dyma fe, a Caroline yn dangos i ni gyd fod ganddi gloch ym MHOB dant. Ond be ddiawl sy’n bod ar ei brawd?

*ring ring*
Ma’ Ben wedi llwyddo (sut ddiawl??) i gael bach o wybodaeth oddi ar y laptop wedi’i ffrio, ac yn gwybod pwy oedd yn bygwth Gruff. NA!! Drama bois… JYST pan oedden ni’n meddwl fod gobaith iddyn nhw. Gytid.

Ma Richard yn edrych fel tase fe ‘di gweld ysbryd, ac yn mynd i lefen yn y bathrwm. Neu falle fod e’n siomedig fod e heb jyst mynd â’r teulu i’r archau aur am swper. Lot chepach, ond ych-a-fi.

Y DIWRNOD OLAF…

Llythyr i Sali’n cyrraedd… Ac ynddi USB… C’mon Sali, paid a’n cadw’n aros!

Pat a cêc, Pat a cêc, rho fe i Tone,
Pat a cêc, Pat a cêc, peidiwch â sôn,
Pat a cêc, Pat a cêc, drychwch y mess,
Pat a cêc, Pat a cêcOMAIGODPAIDABLYDIBYTAHWNAAAA!!

Dyna be’ oedd ar yr USB… Fideo o sgwrs Richard a Bobo. Ma Sali’n gwbod y gwir. Falle neith hynna’i neud hi ychydig yn chwer… O na. A CERIAN sgwennodd y llythyr am affêr Richard a Rachel… Ac o’dd ei thad YN cael affêr… A ma hyn i gyd yn ormod i fi, fi angen lie-down!
Pwy sy’n dweud y gwir??
Un peth ‘wy YN ei wbod: dyw Richard ddim yn dda iawn yn paco cês.

A dyma ni nawr yn darganfod y gwir am Rachel, am Mark a’i affêr, am y gwir reswm tu ôl ei hunan-laddiad… Mae holl waith, holl gynllun Jan wedi bod yn dipyn o wastraff. Blydi hel, rhaid bo hi’n gytid am yr holl rhent ma’i ‘di talu am y tŷ ‘na. Dyw hi heb hyd yn oed dadbacio dim byd ‘na.

Ma’ Tony mewn tipyn o stâd. Ddim AR Tipyn o Stâd. Pwps ym mhobman. A nawr wy’n sylwi ar ‘i hot pants bach e. Neis, Tony, neis.

‘Dwi ddim yn gweld dyfodol hapus iawn i Huw a Caroline ar ôl iddi ddarganfod ei ‘frad’. Ond o leia ma’ ganddo ddyfodol disglair yn modelu i gatalog Kays.

"Hi. Fi 'di Huw... A dyma 'casual'..."


Ma’ popeth ar fîn cico off! Ceir a faniau du ym mhobman!

Jan a Bobo a Cerys a Mark a Caroline yn y gegin gyda gwaed ar y gyllell a GWAED AR Y GYLLELL fflipin eck! 

O’r diwedd ma’ Tony’n teimlo’n ddigon hael (wel) i gynnig yr arian i Pat. Ond sori, Tony, ma’i lawer rhy hwyr. 

Tipyn o sefyllfa draw yng ngegin Jan, ond gyda thipyn o “calm down, calm down” tactics ma’ Cerys yn saff. Ond neith Jan-neu-Becky byth o’i gweld hi eto. Arwyddocaol.

Jyst i ddweud, wy’ newydd wylio tan y diwedd gyda ‘ngwyneb yn fy nwylo. Blydi hel. A chryfach. 

A nawr y’n ni wedi gweld pwy gripiodd yn smic i fewn i’r gegin a phigo’r arf o’r llawr a lladd Jan. A wy’ wedi ‘nhemtio i beidio’u henwi nhw fan hyn, JYST rhag ofn bo chi heb wylio. Achos os nad y’ch chi di gwylio fe BLYDI GWYLIWCH E MAE E’N IMMENSE!

A dyma ni. Y diwedd. Ond yng ngwir draddodiad y gyfres, mae ‘na gwestiynnau ar ôl. A gewn ni fyth atebion? Pwy a wyr.

Y deigryn olaf un


Diolch am ddarllen dros yr wythnose dwetha, diolch am ail-drydar ac ymateb, a gobeithio y deith mwy o ddrama Cymreig YMEISING fel hyn yn fuan iawn.
#hint
#comisiwnplisdiolch
#jôc
#hannerjôc
#nosda

#35diwrnod


Saturday 10 May 2014

HŴDYNIT / WHODUNNIT

SCROLL DOWN AND READ MORE>> FOR ENGLISH

PRE-BLOG PENNOD 8

Alla’i ddweud yn hollol onest, yn ddi-flewyn-ar-wotsit, ‘mod i heb fod mor egseitid â hyn am ffinâli cyfres ddrama ar S4C am amser maith, maith…
Ma’ S4C wedi bod yn y newyddion wythnos ‘ma gan fod ffigyrau gwylio i lawr yn ystod yr oriau brig/bîg - gyda drama o safon ffantastig yn ôl ar y sianel (35 Diwrnod, Y Gwyll/Hinterland, Gwaith/Cartref) ‘wy wir yn credu fod gyda ni reswm i fod yn gyffrous ac yn browd o’n sianel unwaith eto. Ta beth…

HŴDYNIT?!



Pwy laddodd / laddith Jan? DIM SPOILERS yma, wy’n addo, dim ond barn:

RICHARD - yn grac bo Jan / ‘Becky’ wedi bod yn ysbïo arno’r holl amser, ac yn gyfrifol am roi ei ferch, Cerian, yn yr ysbyty? 8/10

SALI - Am resymau tebyg i’w gŵr, Richard, ond hefyd am ei bod yn chwerwach na Lady Macbeth mewn bath o finegr yn sugno saith lemwn. Fy ffefryn am y drosedd. 9/10

JAC - Ddim wir wedi dod i gysylltiad ryw lawer 'da Jan, ac er iddi fod efallai’n gyfrifol am roi ei chwaer yn yr ysbyty, geiriau Jac ei hun oedd “…shit happens…” Smo fe’n becso. 2/10

CERIAN - Wedi bod yn trïo’i gorau i agosau at Jan ers tipyn. Ishe datgelu’r gwirionedd neu oes mwy i’r stori tybed? A nawr ma’n bosib fod ganddi reswm da i’w chasau hi… 5/10

CAROLINE - Ma’ Caroline yn fyr iawn ei thymer a byth wedi cuddio’i chasineb a’i amheuon tuag at Jan. Digon i’w lladd, tybed? 6/10

BOBO - Y dihiryn ‘naeth neidio lan yng nghefn car Jan ar ddiwedd y bennod ddwetha… Be’ ddigwyddodd yn y car a pam? 5/10

HUW - Wy’n aros i lefelau stress Huw i gael effaith go wael ar ei iechyd, ond ‘dwi’n meddwl ei fod yn canolbwyntio mwy ar gael Billybob Bobo allan o’i gartref cyn neb arall. 3/10

BEN - Ma’ Ben wedi bod ar daith ddramatig hynod ddiddorol drwy’r gyfres i fi. Mae e’n drwgdybio mai Jan oedd yn blackmailio’i dad, Gruff, gafodd drawiad a marw. Ma ganddo’r motive… 6/10

BETI - Mae’n gallu cwco cacen gythryblus, a dyw hi ddim wedi bod yn holliach ers ymhell cyn i’w gŵr i farw. Yn sicr am waed Jan… 7/10

LINDA - Ma’ Linda ‘di mynda. Neu odyw hi? 1/10

TONY - Ymm wy’n credu bo Tony (sy’n eitha caeth i’r gwely) a PAT ar eu hantur eu hunain ac wedi colli diddordeb yn Jan… 1.5/10

"Cofia, Tony, os wy'n marw... Ti'n marw..."


Ma’n amser ffindo mas am 9 o’r gloch nos yfory ar S4C… 

#35diwrnod


Sunday 4 May 2014

PENNOD 7 / EPISODE 7

SCROLL DOWN AND READ MORE>> FOR ENGLISH

BLOG PENNOD 7

Ma pethe’n cyffrou ar stâd Crud-yr-Awel bois bach!

3 diwrnod yngynt… (diddorol - ynghynt, nid yng nghynt nawr ife?)

WAA! Ma’ Ben wedi’i ddihuno gan hunllef… Neu gan y soddgrythwr sydd wrthi’n tiwnio yn y bathrwm. Falle mai Beti sydd wrthi’n ymarfer? Ond na, ‘sna ddim golwg ohoni. 

Ah ie dyma fe, ac ym, dylser byth chwerthin ar anffawd rhywun arall, ond OMG, Tony mewn dau gast? HAAA!! “LindAAAAA!!”
Falle dylse fe gael cloch fach.

Ma’ Jan yn joio’i car-chases, a nawr ma’n ymddangos ei bod hi am gael un arall, gyda Richard y tro hwn.

Diddorol, ma Linda wedi cael cynnig ‘audition’ arall… Ond pan mae’n dweud ‘audition’, sai’n credu mai ‘audition’ ma’ hi wir yn ei feddwl…



Hwrêêê ma’ Melodi nôl, ond yn siomedig iawn, ma’ rhywun wedi rhoi olew ar olwyn ei beic ers pennod un. Lot llai creepy erbyn hyn.

Grêt i weld bo cymeriad hyd yn oed llai hoffus na Tony wedi cyrraedd y stâd. Helo ‘Bobo’. Anghyfrifol ac esgeulus, ma’ angen shiglad go iawn ar hwn. Wy’n gwbod pwy ddeith i’r fei…



Ar ôl wythnosau o Jan yn holi a chroesholi, yn chwilio am atebion, nawr mae Richard ar mission ac wedi cyrraedd drws Mark (aka Boi y Gwn). ‘Sen i’n tybio mai nyce Mark ni nath e, reit, oblegid ma’ Mark ni’n gw’boi. 
Yn ôl y sôn.
Ydy Jan wedi rhaffu gormod o gelwyddau, neu wedi’i chlymu hi’i hun fewn i wê rhy gymhleth erbyn hyn? Stand-off! Stand-off, a bygythiad gan Richard… 

Cwôt y gyfres gan Ben aka Mr Craff: “Ma’ rhywun yn deud celwydd…”
Ie, da iawn boi.

Druan â Tony, yn gaeth i’r gwely yn ei blasters. Gobeithio cewn ni’i weld e’n cerdded o gwmpas y tŷ  fel’na… Yn wadlan… Plis gewn ni? Plîs, plîs, plîîî… Na sa’i moun gweld Bobo yn y bath! NA! SA’I MOUN! NAAAAAAA!!
*bleurgh*

Mae’n nôs yng Nghrud-yr-Awel. A ma Stan ar fîn dod draw at Sali a Richard am dinner party. Ma’n amlwg bo’ rhain yn cynnal ciniawau gyda gwahanol westeion bob tro - wedi gweld pa mor anodd mae’r sgwrs dros y ford ginio, ma’n anodd dychmygu y base unrywun awydd dod nôl…
#boring
Sali’n llwyddo i neud i Richard edrych fel ffŵl… Bron iddo ddefnyddio’r tray arian ‘na fel arf fynna, weles i.
Edrych felse Bobo ishe dod mewn i’r parti… Achub dy hun Bobo… PAID A BODDRAN!

Ma’ gan Jan gwmni ac… O!! Cerian ife? Tybed am be’ ma’ nhw’n siarad am yr holl oriau maen nhw gyda’i gilydd?

O, Linda. Y dorth.
“Pat… Bydde fe’n neis bo ti’n cael cariad…”
Wrth gwrs base fe. Ti ‘di trïo bod yn fenyw trawsrywiol yn chwilio am gariad, lyf? This ain’t about Pat and yooooo knows it! Ma pethe’n ddrwg yn seion rhwng Pat a Lynda, i’r radde bo Pat yn trïo sbwylo’r ffilm ma’ nhw’n gwylio.

Mae Beti. Yn eithriadol. O dawel. Ni ddeallaf. 

Cerian wedi’i ffeindio yn gorwedd yn y stryd gan yr heddlu?? Ai dyma ffordd Jan o gosbi Richard?


2 ddiwrnod ynghynt…

“LindAAAA!”
Os nagyw Tony’n ofalus neith e ffeindio’i hun adre ar ben ei hun â neb i’w helpu. Mae e’n bell o fod yn model patient

Pam bo Richard adre heb Cerian…? A ddim yn fodlon ateb Jac? Apparently ma’ Cerian dal yn HD. Da i wybod fod hynna’n glir te… (meddyliwch am hynna).
A nawr ma’ Richard ar mission i ddatgelu’r gwir gan Jan. RÊJ! A ma’ Beti wedi dod i’w helpu! O… O’n i’n gobeithio base Beti’n cico’r drws lawr gyda ryw fath o ninja-cic.

Sgilie cudd Beti...


Na, Pat, paid byth â darllen tecst dy ffrind… Neith e ddim ond arwain at… O wel o’n i’n anghywir. Dyw Lynda ddim yn mynd i ddatgelu’r gwir, ma’ Pat wedi mynd yn syth at Tony! Dyma SÎN!
Na, dyma cwôt y gyfres:
LYNDA: “Ti o’dd yn llenwi’r twll yn fy mhriodas i…”
#sgriptioanffodus

“Linda! Lindaaa! LINDAAAAA!”

Ta-ta Linda. O, a dyna ni eto: “Dy fai di yw hyn i gyd.” #clasur
NAAAA druan o Pat, ei ffrind wedi rhedeg off am showmans, gan ei gadael hi gyda dim ond Tony. The Odd Couple os bu un erioed…

Tybiaf fod Sali wedi bod yn dysgu gan Joey Tribbiani. Actio ‘gwynto’r rech’.

"Sori... Odych chi'n smelo... Ym...?"


Cer mla’n Jan… BYTA’R CAC! BYTA’R CAC! BYTA’R CAC! Na. Mae’n dychwelyd y gac / y cac… Siom.


- Ma’ gan Jan elynion ym mhobman ond pwy yw’r un sy’n euog?
- A fydd Pat yn nyrsio Tony nôl yn iach, neu ydy hwn am droi allan fel Misery?
- Pwy fydd yn byta’r gacen ma’ Jan wedi’i ddychwelyd?
- A geith Caroline a Huw drafferth am yr arian ma’ Bobo wedi’i roi iddynt, ac o le ddiawl ddaeth e?
- Pwy roiodd olew ar olwynion beic Melodi?

Dyma ni gydag un bennod i fynd, a Chrud-yr-Awel mor boeth a Chracatoa bois bach!

#35diwrnod