Sunday 27 April 2014

PENNOD 6 / EPISODE 6

SCROLL DOWN AND READ MORE>> FOR ENGLISH

BLOG PENNOD 6

7 diwrnod yng nghynt…

Ma Tony off i ddechreuad da, ac yn styrran ar ei orau drwy ddatgelu’r gwirionedd am gostau rhent ei dŷ wrth Huw. Amser am drafodaeth ‘ysgafn’ gyda Caroline, ie ie?
Yn ôl y sôn, ma’ ‘na reol bisâr ymysg sgriptwyr sy’n dweud: ym mhob cyfres ddrama Gymreig, rhaid bod o leiaf un person yn yngan y geiriau “DY FAI DI YW HYN!” 
A dyma ni.
Yn ôl ei wraig, ‘unig ddewis’ Huw yw i werthu’r cyffuriau ‘naeth e guddio mewn boncyff ym mhennod un. ‘Sen i’n bersonol yn trïo cael sgwrs fach gyda HSBC* cyn trïo gwerthu llond parsel o ddrygs, ond dyna ni, ni gyd yn wahanol ondy’n ni?

*mae banciau a sefydliadau ariannol eraill ar gael. Oll cyn waethed â’i gilydd.

Ma’ Pat druan fel Sinderela o gwmpas y tŷ ‘na… A siom iddi heno wrth glywed fod Lynda wedi bod yn dweud celwydd wrthi. Na! Wy’n joio’r ysgafnder yn y cyfeillgarwch ‘ma - sa’i ishe gweld nhw’n cwympo mas nawr.

JAN JAN JAN! Be’ ti’n blincin’ neud? 
Dyw Jan ddim yn hapus gyda Richard, yn amlwg, ac anelu’r dryll ato… Wel, trwy drws y bathrwm wrth gwrs. Tipyn o rwystr fynna.
Joio’r ffaith ‘mod i ddim cweit yn gwybod 100% ei bod hi ddim am dynnu’r clicied.


6 diwrnod yng nghynt…

Aeth ddoe yn sydyn, do? Rhaid mai dydd Gwener oedd hi.

Ma’ Huw ‘di ffindo hanner y rhent, gyda’r gweddill yn dod ar ddiwedd y mis. Gobitho na gath e pay-day loan gydag interest o 3758%. Aw.

CAR CHASE CAR CHASE CAR CHASE!

Yn ei gwisg goch NEIDIODD Jan o'r car fel fflach...


Dwi newydd sylwi, gyda holl dristwch a chymysgwch emosiynol Beti wedi marwolaeth Gruff, ma Ben i weld yn llawer fwy stable. Dyw e ddim wedi cyffwrdd â’r origami ers wythnose… Diddorol.

Beti y’n ni’n galw’n mam ni hefyd. Petai hi hanner mor siaradus a di-stop â hon, se’n i wedi’i gyrru hi draw i Shady Pines ymhell cyn hyn…

Ma Jan mewn picil nawr, ma Mark (neu ‘Boi y Gwn’) wedi’i dilyn ac yn achosi bach o sîn ar Crud-yr-Awel. AHAAAA… Nawr te, ma’n amheuon ni’n dechre cael eu datrys a’u hateb. O’n i wedi amau fod perthynas rhwng Jan a Mark o ryw fath.
Ma Jan yn teimlo’n euog am berswadio ‘Rachel’ i fynd i dribiwnlys… A Rachel oedd CHWAER JAN. Reeeeeeit…!

Ma’ Caroline yn addo ar ‘fywyd ei phlant’ na ddaw ei brawd Bobo yn agos at eu cartref. Hmm…

Diwrnod arferol arall gyda Caroline a Huw


Os mai ‘Bobo’ fase enw ‘mrawd i, ‘sen i ddim yn moun iddo fe ddod yn agos chwaith.
A nawr ma Huw wedi spotto Mark yn gadael tŷ Jan ac yn cael panic. Ma’r cylch yn cau. Bring it on.

Wel, ma’ heddi’n ddiwrnod o sîns ar y stryd. Ond diolch i sîn fach Beti, ma’r cwestiwn wedi codi rhwng Jan a Richard am ei affêr gyda Rachel, a mae e’n ei wadu’n llwyr…  A wy’n ei gredu e! Beti oedd yn rhoi dou a dou at ei gily’ medde Richard, felly nawr ma’r dirgelwch yn dwfnhau - oes e lawer mwy i’r stori nag oedden ni’n ei feddwl??

Ma’ Ben yn dwed fod Jan yn dweud fod Richard yn dweud fod yr arian yn y sied… Waw.
AC MAI RICHARD OEDD YN BLACMEILIO GRUFF! Ife? A lle mae gweddill yr arian? A nawr ma Beti wedi darganfod y gwenwyn…

Dyma ‘Bobo’… Brawd Caroline. Mae e’n rhydd o’r carchar (jiw jiw ffast turnaround!) ac o bosib ma’ ‘na ddiolch mawr i Huw am hynny. Wpsi… A dyna syrpreis, ma’ Caroline wedi torri’r addewid ‘naeth hi ar fywyd ei phlant. ‘Udishido…

Ma Beti’n brysur gyda’r gacen tail a brethyn i Jan…

Beth yw ‘busnes’ Tony? Dwi’n tybio ‘sa Tony’n neud cystadlwr amêsing ar The Apprentice eleni…

Ma’ pawb yn dweud celwydd wrth ‘i gilydd ar y clos a Jan yng nghanol y wê erbyn hyn. Ar wahan i’r car sy’ newydd rifyrsio dros Tony…
Y CAR SYDD NEWYDD RIFYRSO DROS TONY?! WAH!
Na, nid Tony ‘druan’… Jyst Tony. Wps.
(kudos, gyda llaw i Rhys ap William sy’n fachan neis o Gwm Tawe sy’n llwyddo i whare bachan mor ychapych â Tony

Ma’ hyn nawr yn gêm o statws a chelwydd… A’r bennod nesa’ yn edrych yn schamazing!

Y cwestiynnau sydd i’w hateb felly:
- Ai Richard oedd yr un oedd wir yn blacmeilio Gruff?
- Lle ma gweddill arian Gruff?
- Pam ddiawl fod Gruff yn cadw jar o wenwyn yn ei sied??
- Richard neu Jan sy’n dweud y gwir am yr affêr?
A fyddwn ni’n gweld nyrs Pat yn gwthio Tony o gwmpas mewn cadair olwyn wythnos nesa…? Chi jyst yn gwbod fydd ganddi'r rigowt perffaith...

"Tony, cariad... Ti'n barod am dy bed bath...?"

Sunday 20 April 2014

PENNOD 5 / EPISODE 5

SCROLL DOWN AND READ MORE>> FOR ENGLISH



BLOG PENNOD 5

9 diwrnod yng nghynt…

Jan, Jan, ble mae dy dan?

Wel, fel ‘air hostess’ (neu rep Butlins) ‘sech chi’n meddwl ei bod hi’n dala BACH o liw haul…?
Y’n ni’n dechre gweld fod ‘na gysylltiad cryf rhwng Jan â Richard… Ond bo ni ddim yn siwr beth yw ei natur eto. Wythnos dwetha mi oedd Jan yn dangos cryn dipyn o ddiddordeb yn ei chymydog a’i hanes… Wedi dweud hynna ‘dwi’n neud rywbeth tebyg, ond ‘sgen i ddim cyfrinachau… O na… Dim byd…

Cerys yw enw’r ferch fach ry’n ni wedi’i gweld yn lluniau Jan - ei merch hi yw hi tybed? Neu ryw gysylltiad llai amlwg? Ma Jan yn cael brecwast gyda dyn ifanc - dyn sy’n disgwyl am ei swyddog profiannaeth (ie - probêshyn), a phwyntiau bonws os gofioch chi pwy yw hwn… Ie! Y dyn ifanc welon ni yn rhoi’r parsel i Huw yn y bennod gyntaf! Jiw ma hwn fel join the dots go iawn. A nawr mae e wedi derbyn parsel ei hun.

Dirgelwch newydd i ni: ma’ gan Jan wisg nyrs neu ryw fath o staff feddygol ymlaen nawr…

Am y resymau cywir, ‘dwi ffili help ond chwerthin pan wela’i Pat… NID chwerthin am ei phen, dwi’n hynod falch o ddweud, ond chwerthin gyda'r disgwylgarwch o beth wedith hi wrth Tony heddiw…? Ma Pat yn iawn - ma Tony wedi codi’n gynnar, ond ife fe oedd y cysgod digon shady welon ni’n cripan yn crîpî o gwmpas cartref Jan?

O’r diwedd ma’ Ben wedi dechre archwilio manylion ariannol Gruff… Ac wedi darganfod fod yna arian ar goll! Ma Ben a Beti wrthi’n ceisio darganfod be’ ddigwyddodd i’r £4500 dynnodd Gruff o’r banc, ond beth alle fe fod wedi neud ag e?
Car ail-law?
Gwylie i’r Seychelles?
Upgrade i’r sied?



Wedes i bo Cerian yn gymeriad fach ddiddorol, do? Mae’n byw reit yng nghanol un o brif ddirgelwc… ddirgelych… Mistyrîs y gyfres. Hi nawr yw’r ditectif sy’n mynd ati i ddarganfod y gwirionedd tu ôl achos llys Richard. ‘Dwi’n tybio mai drwy ei harchwilio hi y down ni i wybod y gwirionedd.

“Sori Caroline, ti oedd yn iawn…” - y linell doedd neb yn ei ddisgwyl.
Ma’ Huw a Caroline yn amlwg wedi nabod ei gilydd ers amser maith iawn, ers ysgol yn ôl eu sgwrs.


Sali… Wedi gwahodd Jan draw am swper… Nawr ma hynna’n annisgwyl. Dyw’r drafodaeth ddim yn llifo’n hawdd yna odyw e? Tybio mai ‘3’ base nhw’n cael ar Come Dine With Me. Os yn lwcus. Ma Cerian yn amlwg yn anesmwyth, ond ma’r tŷ yma mor llawn eliffantod ym mhob ystafell ma’n anodd dechre sgwrs o gwbwl… A ma hi “wedi neud rhwbeth ofnadw…” BETH?! GWED BETH!


8 diwrnod yng nghynt…

Diwrnod y shoot i Pat a Lynda. Weden i y base diwrnod allan gyda’r ddwy ma’n yffach o laff. Os nad oes sgôp i gael ail gyfres o 35 Diwrnod wedyn wy o leia’n gobeithio neith S4C fuddsoddi mewn cyfres dditectif newydd gyda Pat a Lynda…



£6400!! Mae ar Caroline £6400 i Tony, ac wrth ei sŵn hi, dyw Tony ddim yn hapus gyda’u ‘trefniant’ ragor.

Wedi gweld gymaint yn dalach ma’ Pat na Tony, falle mai small man syndrome sydd ar Tony. Taldra, hynny yw… Ahem…

O Beti… Do’dd dy dŷ di ddim yn ddigon od gyda gor-origami-eiddio Ben, ti hefyd wedi neud i’r gegin edrych fel teyrnged i ‘Child’s Play’. Weloch chi erioed unrywbeth mwy sinistr yn eich byw??



Arhoses i mewn B&B yn Nhywyn unwaith oedd â chasgliad tebyg mewn cabinet ar ben y stair.
Fydda’i ddim yn rhuthro nôl yna.


Beth bynnag yw hanes Richard a Jan, dyw hi’n amlwg ddim wedi’i bygwth ganddo, neu fel arall mae’n llwyddo i guddio hynna’n eithriadol, ond hefyd dyw Richard ddim wedi’i fygwth ganddi hithe, felly BETH SY’N BLINCIN DIGWYDD RHYNGON NHW?!

O Tony… Na, na, na…! Wy’ wir yn gobeithio y daw rhywun yn iachawdwr i drigolion Crud-yr-Awel, oblegid ma pawb ar bach o self-destruct ar y foment… ‘Dwi ddim yn hollol siwr sut neith unrywun bara’n fyw tan bennod 8 ar hyn o bryd, ma’ ‘na gymint o densiwn.

Ma’n debyg bo ‘Roger’, cyfarwyddwr gwaith Pat a Lynda wedi cael gwared ar Pat wedi iddo gynnig rhoi’r jobyn actio iddi. Paid â phoeni, Patricia fach, nes i weithio gyda chyfarwyddwr o’r enw Roger o’r blaen - na’th e fynnu fy ngalw i’n A-Laugharne*. Falle taw’r un boi yw e.
*stori hollol wir

Dyw Ben braidd yn medru agor drws ‘i lofft oherwydd adar orifflipingami, tra bo’i fam yn iste yng nghanol y dolie… Yn gweu… Dyw’r broses alaru ddim wedi bod yn garedig iddyn nhw…

Draw yn y llofrudd-dy, ma’ Jan yn iste’n dawel yn llefen yn y lolfa, nepell o’r man lle fydd ei chorff yn gorwedd ymhen 8 diwrnod. Richard yw’r un sy’n dod i’w chysuro.

A nawr, Jan fach, ti ‘di ychwanegu arf newydd i’r bwrdd Cliw, do?

Felly:

  • Me Beti druan ar ben ei thennyn a chyda lolfa llawn doliau digon disturbing i roi siom farwol i unrywun… Fel Jan…
  • Ma’ Cerian yn dod i wybod cyfrinachau’r teulu’n ara deg, ond faint o ddicter mae’n cuddio dan yr arwyneb?
  • Ma’ gan Tony dipyn o obsesiwn gyda Jan, ond heb i ni weld, ai denu’n agosach neu ei rybuddio i ffwrdd am byth ‘naeth Jan?
  • Beth oedd party trick Sali
  • Poor Beti is at the end of her tether, surrounded by a loungefull of dolls, terrifying enough to give anyone a fatal shock… Jan, for instance…
  • Cerian has come to know more of her family’s secrets, but how much anger and frustration is bubbling away beneath the surface?
  • Tony seems to have a strange obsession with Jan, but having not seen what really happened, did she draw him closer or warn him off forever?
  • What was Sali’s party trick after the dinner party…? Theyr’e keeping us guessing…

Be' am drydar eich sylwadau:
#35diwrnod
@35diwrnod


Sunday 13 April 2014

PENNOD 4 / EPISODE 4

SCROLL DOWN & READ MORE>> FOR ENGLISH

BLOG PENNOD 4

Newyddion gore'r wythnos oedd bwmpo mewn i Siwan Jones na'th greu'r gyfres. Ges i sgwrs neis a 'naeth hi ddim torri'r un o 'mreichie i... Sêl bendith i gario 'mlaen i flogio te!

16 diwrnod yng nghynt...

Jan, Jan, be ‘di dy sgam?
Ma' hi nôl adre yn ei gwisg… Ond pam bo pawb yn cymryd mai flight attendant yw hi? ‘Sneb wedi meddwl am yr opsiwn arall, odyn nhw?



Ma’n edrych felse rhywun wedi gadael i’r gawod i redeg tra bo hi i ffwrdd... Ym Mutlins... A ma’n ymddangos fod un o hen sanau Richard yn plygio’r draen...
#whensocksniffinghabitsgowrong

'Dwi ddim cweit yn gallu gweithio mas beth yw thema’r parti draw gyda Linda a Tony. Ma’n edrych yn hwyl, ond Pat sy’n ennill y wobr am y wisg ore: 'Memoirs of a Geisha'. Dim esboniad, jyst gwisg ffantastic. Blydi brilliant.

Ma Tony’n sicr â bach o thing am Jan… Siwr fod e’n ei gweld hi fel dipyn o her. Ai dyma’r fenyw gynta i wrthod Tony a’r tan trofanaidd tybed? Falle mai hoff o’r gêm yw e.

RICHARD: “Be ti’n moun i fi weud Sali? So ti ‘di neud dim byd ond conan ers i ni fod ‘ma…”
…Ac ers pennod un gwboi… 
Dyw Sali ddim y fenyw hapusa. A dweud y gwir, ma hi stret allan o Dallas / Dynasty / Knots Landing / Pobol y Cwm / Con Passionate / Teulu... Wel, ch'mo be fi'n feddwl...

HAHAHA! Nos Galan gyda Beti a Gruff. Rêf go iawn. ‘Sdim rhyfedd bo well gan Gruff ishte mas yn y sied yn ticlo’r picl.
Rhaid bo Ben lan stair yn plygu'i pelican yntau.
No pun intended.

Ma Caroline yn gymeriad onest iawn. Onest a chrac. Onest a chrac a ryff. Sai’n moun gweud mai nid hi yw’r llofrudd - mae’n amlwg yn grac ac yn casau Jan - ond sai’n credu bydde lot o obeth gyda hi gadw’r peth yn dawel. Teimlo falle y base hi’n neud tipyn o ddrama am y peth…

AAAH! Creepy creepy Tony wrth y drws ETO… 


35 Diwrnod neu Ghostwatch...?


Ah, wedi dod i checo fod Jan yn ‘oreit’. O Tony… Diolch am roi ‘LOL’ mwya’r gyfres hyd yn hyn i ni: “Ti’n lesbian neu be’?” Wel wrth gwrs Tony bach, sut arall yn y byd bydde hi’n medru gwrthod dyOJIWJIWMAFEWRTHIDACAROLINE! Ma’r ddou ma’ fel dou Jack Russell bach. O leia ma’ nhw’n joio sbo…

"Tony! Tony!"
"Caroline! Caroline!"


15 diwrnod yng nghynt...

‘Smo ni ‘di gweld digon eto o Cerian yn 'y marn i. Druan ohoni, mae’n byw gyda'r rhieni gwaetha ers Home Alone... Na, hang on, dwi'n anghofio am Caroline a Huw... dou riant sy’n casau’u gilydd a’i brawd mawr hi’n ddim lot o gwmni. Beth yw ‘i chyfrinache hi te? 

Gutted. Ma’ Pat wedi colli gwisg y geisha, ond ma'i deinameg hi a Tony yn ffrwydrol. Fi’n moun bod yna pan ma’ popeth yn cico off.
Tu ôl i ffenest gryf.
Mewn riot gear.

Pam bo fi methu darllen perthynas Jan a Richard?? Ma ‘na rywbeth yn mynd ymlaen, ond do’s gen i ddim syniad be! 

Ah, dyma fe… Yr origamifeistr ei hun. Neis i Jan gael ymuno â teulu hapusaf y clos. Jôc. Yn enwedig gan iddi DAFLU cacen gynta Beti’n yfflon i’r bin sbwriel. Ma llaw Ben yn dal i neud dolur ar ôl iddo feddwl mai pice ar y mân oedd e wythnos dwetha’. O leia gyda’i law mewn rhwymyn fydd ‘na lai o compulsive origami’n digwydd. ‘Sna ddim lle ar gyfer yr un garan arall ar y nenfwd.

HEDDLU HEDDLU HEDDLU BETH PAM PRYD SUT BLE?!

10 diwrnod yng nghynt...

NA!! Pwy sy ‘di mynd?! Fflipin ec, Beti sy’n sefyll dros yr arch, ond arch pwy? Wel, mae’n ymddangos na fydd yr hen Gruff yn defnyddio’i siswrn fawr i wneud llawdriniaeth o unryw fath. Dyma gael gwared ar un o’r rhai dan amheuaeth… Ond eto i gyd, gyda Beti wedi rhoi gymaint o bwysau ar Ben i fod yn neis wrth / denu Jan, a fydd marwolaeth ei dad yn gwthio Ben i wneud rhybeth byrbwyll?
(na, nid dysgu sut ma neud brogaod o bapur).
Ond hefyd nawr, gyda laptop Gruff wedi’i losgi’n ddeilchion, a newn ni ddarganfod pwy ddiawl oedd yn bygwth datgelu’u luniau?

Well there’s a turnup for the books… Jan yn cynnig lifft i Tony?? Paid a chodi dy… Obeithion gwboi…

Richard - be ti’n neud yn sied Gruff? Ha! ‘Se ti’n gwbod be fydde Gruff yn arfer neud baset ti ddim yn ishte lawr mor gyfforddus yna.

Www nawr te diolch i Alex, cyn-wraig/bartner Ben, y’n ni’n cael ychydig mwy o wirionedd am Beti. Be sy’n mynd ymlaen o dan yr arwyneb siaradus, sidêt yna?

Dyma Huw yn cyrraedd adre ar ôl ei wrandawiad yn y gwaith. Sai’n credu fod newyddion da gydag e. Dim ond dyfalu. Os yw e’n ddyn despret (a c’mon, ma’r boi yn briod â Caroline) wedyn pwy a wyr pa mor anghyson fydd e? Y’n ni’n gwbod yn barod nad yw e’n ffan o Jan…


Beth y’n ni wedi’i ddysgu’r wythnos hon?
- Gafodd Richard affêr yn y gwaith, ond yn bwysicach fyth, mi gyflawnodd y ferch hunan-laddiad wedi hynny. Pa effaith gafodd hynna ar Richard, a sut ma Jan mor wybodus am yr holl beth? JYST drwy’r papur newydd?
- Nid Gruff laddodd Jan… Ond pa effaith geith ei farwolaeth ar Ben a Beti, ac a gaiff Jan y bai am wirioneddau a ddatgelir wedi hyn i gyd?
- Tybed a fydd rhwystredigaeth rhywiol Tony'r teigr yn arwain at ffrwydrad ffrywiol*?

*ddim yn air go iawn ond o'n i'n rili joio'r cyflythrennu.

#35diwrnod
@35diwrnod

Sunday 6 April 2014

PENNOD 3 / EPISODE 3

SCROLL DOWN & READ MORE>> FOR ENGLISH...

BLOG PENNOD 3

Diddorol - mae’r sylwadau a’r drafodaeth ar Twitter wedi’i rhannu’n ddwy - “Hynod ddiddorol” a “Rhy araf”. Sa’i wedi cyfrannu i’r gyfres, ond se’n i’n gofyn: nagyw hi LOADS gwell i ddarganfod pethe am bob cymeriad yn slow bach drwy’r bennod a thrwy’r gyfres? Nage 'drama' yw ffeindio popeth mas am bawb yn ystod pum munud gynta pennod un…

Dwi'n gweld eisie 'Teulu'. Eniwei...

25 diwrnod yng nghynt…

PWY yw Jan? Mae gan bawb arall rywun maen nhw’n rhannu ty gyda nhw / rhannu gwely gyda nhw / trafod y bydysawd gyda nhw, ond nid Jan. Gyda Jan ma angen i ni aros a bod yn amyneddgar, wy’n teimlo, er mwyn darganfod mwy. OND WY ISHE GWBOD NAWR.

Uh-oh, pwy ma Tony’n anelu am gyda’i wn hiwj y tro hwn…? Dyna ni. Jet wash yw hi. O’n i wastod wedi tybio falle fod Tony’n poeni am faint ei ddryll, a dyma’r prawf falle. Mae e’n dipyn o ferchetwr, ond sut mae e’n eu cael nhw?

Aha ma Caroline wedi dial ar ei gwr am iddo werthu’i char. Retail therapy

Dyma Ben. Ben, druan, sy’n pendroni rhwng aros yn y gegein gyda Beti, ei fam a’i pharablu di-stop, a’r ystafell wely mwya creepy ers The Excorcist. Ond gyda llai o chwd, a mwy o origami. Nes i ychydig o ymchwil fewn i gymeriad Ben, ac er ei fod e’n arfer bod yn athro, na’th e roi crap ar fod yn ddylunydd ffasiwn.

Ond barodd e ddim yn hir.



Dyma Gruff yn neud creepy dyn-yn-y-coed acshyn. Chwilio am foch daear siwr o fod. A na! Allan yn cadw llygad ar y bin lle roiodd e’r sach o arian… Be wy ishe gwbod yw pwy o’dd ishe’r arian yna? Be sy’ gyda nhw yn erbyn Gruff? A pam ‘i fod e mor awyddus i gadw’r llun o’i fijibo yn gyfrinach? Ma Tony wedi codi drwgdybion Gruff am Pat, a’i bod hi angen arian am ei llawdriniaeth… Yn bersonol, dwi’n amau y base Pat ychydig yn fwy clyfar na hynna.

NA! PAT! Be sy’ ‘di digwydd? Ma cyfeillgarwch Pat a Linda yn ffefryn gen i. Pam wedodd rhywun fod “neb yn gwenu” ar ystad Crud-yr-Awel, se’n i’n anghytuno - ma’r ddwy ‘ma’n cal laff gyda’i gilydd. Ond wotsh owt Pat… Ma Gruff yn y sied eto gyda’i flowtortsh. Y’n ni’n gwbod yn union be’ mae e’n feddwl…

Sdim byd fel creme brulee i godi gwen.

Ma tueddiad gen i weithie i ddiystyrru’r cymeriadau hŷn, ond wy’n anghofio fod cymeriadau fel Beti a Gruff wedi byw bywyd hirach, wedi casglu mwy o sgerbydau ac yn cario lot mwy o ‘baggage’. Ma’ nhw wedi bod gyda’i gilydd ers blynyddoedd ond dy’n ni ddim yn ‘u gweld nhw’n ishte lawr i rannu’u teimladau a joio. 

NA! Ddales i hi… Ma Sali yn gwenu! Ac yn chwerthin! I fod yn deg ma’r speaking clock yn real laff ar ol peint neu ddou.

Be ‘wy WIR ishe gweld yn digwydd yw dou neu dri o’r cymdogion yn bwmpo mewn i’w gilydd yn y llwyni…

“O! Ymm… Helo. Noson oer, ondyw hi?”
“Ha! Ydy… O’n i jyst yn… Ymm… Whilo am… Fochyn daear! Ie. Mochyn daear.”
“Yr un yma?”
“Na. O’dd y’n un i’n fwy… Tew.”

Ma’ gan Richard a Jan hanes. Deffinit. Tro dwetha es i rownd i ddweud ‘Nadolig Llawen’ wrth gymydog newydd nethon nhw wenu a’i ddweud e nol… Ond dim ond edrych mor swrth â Kerry Katona pan fo’r siop jips wedi cau ‘naeth Jan. Y’n ni’n gwbod fod Richard dan y fawd ond pam, huh, pam?

“AAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAARGH!!!”

Dywedaf eto:

“AAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAARGH!!!”

oblegid dyma oedd fy actshiwal ymateb wrth i Ben anghofio mai nid pice-ar-y-man oedd ei law. Easy mistake. Ma’ stori Ben yn sicr yn un dwi ishe weld yn cael ei datblygu nawr - y’n ni’n gwbod ychydig baaach o’i hanes, ond beth yn union ddigwyddodd iddo?

Nawr te. Ma Jan wedi mynd i dŷ arall. Nage ystâd cyfoethog fel Crud-yr-Awel yw hon. Ac o, ma ganddi deulu yna! So ma’ Jan yn gwisgo’i dillad gwaith, yn gadael y tŷ ac yn mynd i weld teulu / ei theulu… Fally beth yw ei gêm hi?

22 diwrnod yng nghynt… DYDD NADOLIG!

Tymor ewyllys da yn wir, a wy’n siwr fod teuluoedd ar hyd a lled y wlad yn chwerthin wrth adnabod deinameg ‘Nadoligaidd’ Tony a Pat wrth y ford ginio. Ma’r tensiwn rhwng y ddou yma’n amazing. Cue Gruff yn torri ar draws y cyfan gyda’i offer llawdriniaeth ‘rustic’. Dyn ar ben ei dennyn… Ond y’n ni’n gwbod mai nid Pat sy’n ei chael hi yn y pen draw, felly be sy’n mynd i ddatblygu dros yr wythnosau nesa?

Ma Huw a Caroline ishe mynd i’r Maldives. Tocynnau’n barod. A’r cyffuriau yn y fforest. Dyma bicil. Bonnie a Clyde yr ystâd = yr unig bryd ma’ nhw i weld yn dod ymlaen â’i gilydd yw pan ma’ nhw’n cynllwynio. Ond jiw, ma’ nhw’n edrych fel tîm do dda. A se’n i ddim yn moun bod ar yr ochr anghywir iddyn nhw… Yn enwedig Caroline!

So:
- Ma’ Jan o hyd yn llawn cyfrinachau (hei, nagy’n ni gyd?) ond y’n ni’n amau nawr fod ‘na ryw fath o stori rhyngddi hi a Richard a bo bywyd dwbl ganddi. Dybl-o-Jan
- Dyw Ben ddim wedi bod yn cymryd ei feddyginiaeth, sydd ond yn mynd i gyfrannu at ei iselder. Lle all hwn arwain? Tebyg mai at fwy o origami…
- Dylen ni fyth, byth mynd yn agos at sied dŵls Gruff. Ma’n edrych fel 'Saw 8' mewn fynna… 
- Dyw Tony RILI RILI ddim yn lico sbrowts. Na Pat. Posib iawn fod Dybl-o-Jan wedi coginio llond cegin o sbrowts cyn i Tony cael rêj anferthol a mynd dros-ben-llestri. Tybed…?

Beth y’ch chi’n feddwl?

#35diwrnod
@35diwrnod